Lluniau: Sioe Môn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Sioe Môn yn un o'r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o filoedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.
Eleni roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 9-10 Awst, ac fe yrrodd Cymru Fyw y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald) i'r sioe i ddal rhywfaint o'r golygfeydd.

Gwenno Parry o Lantrisant gyda phencampwr y gwartheg Holstein

Ela a Anest Roberts o Ffridd Llithfaen gyda phencampwr y moch ddydd Mawrth

Llysgennad y Sioe, Cain Angharad Owen

Gwyn Roberts o Frynsiencyn, Môn, gyda'r is-bencampwr yn adran y moch ar Faes y Sioe eleni

Rhys Griffiths o Tros Y Waun, Penisarwaun, gyda'r ceffyl gwedd Trem Y Wydda, enillydd yn ei ddosbarth

Cai Ffom o Gaernarfon yn cael hufen iâ ar ddiwrnod poeth yn y Sioe

Meirion Roberts o Lanrwst gyda phencampwr y defaid Charollais

John a Susan Jones o fferm Treanedd, Star - llywyddion y Sioe eleni

Lea Eastwood (14) o Gemaes, Ynys Môn, bugail ifanc y sioe eleni

Huw Edwards o Bant Y Celyn, Treborth, Môn gyda maharen Whiltshire Horn; pencampwr yn y sioe

Eirian Wyn Williams o Gae Garw Mawr, Rhostrehwfa; pencampwr brid y lliw

Dafydd Owen o Rowen, Dyffryn Conwy, gyda Phencampwr Tiroedd isel, dafad Beltex. Hefyd yn y llun mae'r beirniad Geraint Jones (Roci)

Eric Pritchard o Benllech gyda Ford 83N (1953)

Emlyn Richards o Gadfan, Pensarn; pencampwr yn adran ceffylau Arab

Dylan Williams ac Amanda Willimas o PGF Agri; enillwyr stondin amaethyddol orau

Rhys Richard, cadeirydd Ffermwyr Ifan Môn gyda chwpan a enillodd y mudiad am stondin orau y sioe

Cystadleuaeth cneifio yn mynd rhagddi

Gerallt Jones o Waunfawr, Pencampwr Valais Blacknose

Wyn Davies, Bronallt, Morfa Nefyn, gyda phencampwr defaid Llŷn.

Maes y Sioe yn llawn ar brynhawn Mercher

Teulu Cefn Coch, Amlwch, yn cadw allan or haul yn y sied wartheg

Gwawr Williams o Bryncroes, Llŷn, gyda dafad ddu Gymreig - pencampwr defaid y Sioe

Ieuan Hughes o fferm Fferam-gyd, Llanbabo gyda phencampwr y sioe