Problemau alcohol: 'Heb y lle yma, 'swn i ddim yn fyw'

Roedd 19% o gynnydd yn 2020 yn nifer y marwolaethau yng Nghymru oedd yn ymwneud ag alcohol - y lefel uchaf mewn 20 mlynedd.

Cofnodwyd 438 o farwolaethau bryd hynny, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o'i gymharu â 368 yn 2019, ac mae yna ofnau y bydd y nifer yr uwch fyth eleni.

Yn ôl elusen adferiad Barod, mae nifer y rhai sy'n cael eu cyfeirio at eu gwasanaethau oherwydd problemau alcohol wedi cynyddu 41% o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.

Mae Nerys Edwards yn sobor ers pum mis bellach ar ôl cael cymorth i adfer o'i phroblemau alcohol, ac i ganolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor y mae'r diolch, meddai.

Ar ei gwaethaf roedd Nerys, sy'n 36 oed ac yn fam i ddau, yn yfed litr o fodca neu fwy y dydd.

Mae'r weithwraig gofal yn y cartref yn dweud ei bod hi wastad wedi yfed gyda'r nos, ond i'r yfed waethygu ddechrau'r pandemig.