Safon Uwch: 'Neb yn gwybod beth i ddisgwyl'

Bydd canlyniadau arholiadau Safon Uwch yng Nghymru yn deg eleni, yn ôl y prif fwrdd arholi, ond mae rhai disgyblion yn credu eu bod dan anfantais o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Fe fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau ar ôl yr arholiadau haf allanol cyntaf am dair blynedd.

Mae Cymwysterau Cymru'n dweud eu bod yn disgwyl i'r canlyniadau fod yn is na 2021, ond yn uwch na'r arholiadau diwethaf a gafodd eu cynnal yn 2019.

Mae Heti a Tomos, 18, yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Yn ôl Tomos mae eu blwyddyn nhw wedi bod o dan ychydig o "anfantais" oherwydd yr amgylchiadau, tra bod Heti o'r farn fod sefyll arholiadau pwysig heb brofiad o wneud hynny ers rhai blynyddoedd yn "annheg".