Trên o fewn eiliadau i daro dyn a'i gi yn Harlech

Dyma'r foment y daeth trên o fewn eiliadau i daro dyn a'i gi ar groesfan yn Harlech fis diwethaf.

Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn fwy gofalus ar y traciau ar ôl i bobl gyda chŵn bron â chael eu taro ar ddau achlysur yn yr un lleoliad yn ddiweddar.

Gyda'r tymor gwyliau yn ei anterth, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog ymwelwyr a phobl leol i fod yn fwy gwyliadwrus a bod yn berchnogion cŵn cyfrifol.

Ar yr achlysur yma bu bron i gi - oedd ddim ar dennyn - a'i berchennog gael eu taro ar ôl crwydro ar y traciau heb sylweddoli fod trên yn agosáu.