Caryl yn 'llawn cyffro' i gyflwyno rhaglen hwyr Radio Cymru
Mae Caryl Parry Jones yn "nerfus ond yn llawn cyffro" i ddechrau cyflwyno'r rhaglenni hwyr ar Radio Cymru o fis Hydref.
Mae Caryl yn llais cyfarwydd ar y tonfeddi ac ar deledu a bydd yn gadael y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2.
Daw'r newid ar ôl i Radio Cymru gyhoeddi y byddai rhaglenni Geraint Lloyd, Geth a Ger a Nia Roberts yn diflannu o'r amserlen.
Fe wnaeth hynny ennyn tipyn o ymateb gyda deiseb yn cael ei lansio i achub rhaglen Geraint Lloyd. Fe wnaeth mwy na 1,800 o bobl ei arwyddo.
Bydd Caryl yn cyflwyno ar yr orsaf bob nos Lun i nos Iau rhwng 21:00 a hanner nos.
Dywedodd ar raglen Aled Hughes fore Mercher y bydd yn "rhaglen wahanol iawn" i'r un foreuol a'i bod yn edrych ymlaen.