'Gemau anodd' i ddod i dîm Merched Cymru

Mae dwy gêm "anodd" i ddod i dîm pêl-droed Merched Cymru, wrth iddyn nhw geisio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd 2023.

Groeg a Slofenia fydd y gwrthwynebwyr i Angharad James a gweddill y garfan ddechrau Medi.

Yn ail yn y grŵp ar hyn o bryd, mae Cymru angen pedwar pwynt o'r ddwy gêm sy'n weddill er mwyn bod yn sicr o le yn y gemau ail-gyfle.

Dim ond dau bwynt y tu ôl i Gymru mae Slofenia, sy'n drydydd, a thri phwynt y tu ôl mae Groeg yng ngrŵp I.