Cymuned Pwllheli yn casglu £60,000 fel blaendal i brynu gwesty

Mae cymuned Pwllheli wedi llwyddo i godi £60,000 mewn cwta 12 awr i dalu am flaendal i brynu gwesty yn y dref.

Roedd 'na bryder yn lleol y gallai Gwesty'r Tŵr gael ei ddefnyddio i gartrefu pobl fregus ond heb gefnogaeth.

Mae'r gwesty wedi bod ar gau ers dechrau cyfnod Covid, a'r nod gan y gymuned yw ei ailagor erbyn y Nadolig gan helpu i adfer y stryd fawr hefyd.

Ond, bydd angen codi £400,000 eto o fewn blwyddyn er mwyn cwblhau'r pryniant yn derfynol.

Dywedodd y Cynghorydd Karen Rees Roberts, Aelod o Gyngor Tref Pwllheli, mai creu "hwb i'r gymuned" yw'r nod "lle mae pawb yn medru mynd."