Teyrngedau o Gymru i'r Frenhines Elizabeth II

Mae cyfnod o alaru swyddogol wedi dechrau yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Mae llyfrau o deyrnged wedi eu hagor mewn lleoliadau ar draws Cymru er cof am Ei Mawrhydi a fu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, yn 96 oed, wedi teyrnasiad o dros 70 o flynyddoedd.

Am 13:00, fe wnaeth gynnau danio salíwt 96 o weithiau - un ar gyfer pob blwyddyn o fywyd y Frenhines.

Cynhaliwyd digwyddiad o'r fath yng Nghastell Caerdydd, ond mae'r teyrngedau yn parhau i lifo o dros Gymru.