'Mae fatha colli Mam, mewn ffordd - mam gwlad'
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn ciwio tu allan i Gastell Caerdydd ers cyn 09:00 ar gyfer seremoni proclamasiwm Brenin Charles III.
Tua 2,000 o aelodau'r cyhoedd sy'n cael bod yn bresennol yn y seremoni i'w gyhoeddi'n Frenin yn swyddogol yng Nghymru
Am 11:25 bydd Gwarchodlu Cyhoeddi o 26 o filwyr 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a Band y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas i'r castell.
Fel aelod o'r Gwarchodlu, mae Dean Hughes, o Flaenau Ffestiniog, wedi cymryd rhan mewn sawl seremoni fawr, gan gynnwys agoriadau swyddogol Senedd San Steffan a seremoni flynyddol Trooping the Colours.
Ond dywedodd fore Sul bod "dim un ohonyn nhw mor bwysig â hon".
"Mae'n seremoni werthfawr iawn i fi fu hun ac i'r Welsh Guards," meddai.
"'Dan ni 'di bod yn rhan o seremonïau rownd y byd, rownd y wlad i gyd... mae'n neis ca'l dod i'n gwlad ein hunain ac i'r brifddinas."
Elfen amlwg o bwysigrwydd yr achlysur i'r milwyr yw eu parch mawr at y Frenhines Elizabeth II, a'r tristwch pan ddaeth y cyhoeddiad ei bod wedi marw.