Beth yw hanes perthynas y Frenhiniaeth a'r Eisteddfod?

Bu'r Frenhines Elizabeth II yn ymwelydd cyson â rhai o brif wyliau Cymru yn ystod ei theyrnasiad - yn eu plith yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar 6 Awst 1946 yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru yn Aberpennar, cafodd y Dywysoges Elizabeth ei hurddo yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.

Croesawodd yr Archdderwydd Crwys y Dywysoges i'r maen llog fel Elizabeth o Windsor.

Ond beth yw hanes y cysylltiad ers hynny?