Atgofion o datws glas Môn yn dal sylw'r Frenhines

Mae un o arddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru wedi bod yn hel atgofion o rai o'i gyfarfodydd gyda'r Frenhines.

Mae Medwyn Williams o Lanfairpwll, Ynys Môn, wedi ennill 12 medal aur yng Ngŵyl Flodau Chelsea, gan hefyd fynd ymlaen i ddatblygu cwmni hadau llewyrchus ar yr ynys.

Yn sgil ei lwyddiant dydi Medwyn ddim yn ddieithr i gyfarfod â phwysigion ac enwogion.

Ond yn cofio 'nôl i'w ymweliad cyntaf i orllewin Llundain yn 1996, disgrifiodd ar raglen Dros Frecwast sut y gwnaeth ei datws lliw glas gryn argraff ar y Frenhines.