Teyrngedau Eddie Butler 'yn tanlinellu'r golled i'r gêm'

Roedd cyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies yn adnabod Eddie Butler drwy'r rhan fwyaf o'i oes, ar ôl dod i'w 'nabod yn wreiddiol pan oedden nhw'n chwaraewyr rygbi ifanc.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd bod colled fawr ar ei ôl, a hynny wedi ei farwolaeth yn 65 oed.

"Pan mae rhywun o'ch cenhedlaeth chi, rhywun sydd mor ffit hefyd, mor alluog, cawr o ddyn yn gorfforol ac yn feddyliol - o'n i'n ffaelu credu'r newyddion," meddai.

Bu Gareth Davies hefyd yn rhannol gyfrifol am ddod ag Eddie Butler i'r BBC, ble y gwnaeth ei enw'n ddiweddarach yn ei yrfa fel sylwebydd o fri.

"Roedd e'n benigamp, 'sa i'n credu bod neb falle wedi bod mor dda â fe am roi geirie ar lunie," ychwanegodd Gareth Davies.