Y Frenhines Gydweddog yn cofleidio corgi

Roedd y Frenhines Elizabeth II yn enwog am ei chariad at gorgwn, ac yn amlwg mae'r Frenhines Gydweddog yn rhannu'r cariad hwnnw.

Roedd corgi ymhlith y dorf fu'n croesawu y pâr Brenhinol yn Llandaf ddydd Gwener, ac fe wnaeth Camilla ffrindiau gyda'r ci bach.