Datganiad cynnar ar Dywysog Cymru yn 'amharchus'

Cafodd protest yn erbyn y Frenhiniaeth ei threfnu tu allan i Gastell Caerdydd yn ystod ymweliad Brenin Charles III ddydd Gwener.

Dywedodd y trefnydd, cyn-AS Plaid Cymru Bethan Sayed, nad oedden nhw wedi bwriadu cynnal y brotest tan i'r Brenin Charles gyhoeddi y byddai ei fab, William, yn ei olynu fel Tywysog Cymru.

Ond dywedodd ei bod yn teimlo "rheidrwydd" i brotestio am fod hynny wedi digwydd "heb unrhyw fath o drafodaeth gyda phobl Cymru".

"Ni eisiau cael democratiaeth go iawn ac mae hwnna'n meddwl dyfodol heb Frenhiniaeth," meddai.