Cymru i ymateb 'fel gweddill y DU' i angladd y Frenhines

Bydd pobl Cymru yn "ymateb fel gweddill y Deyrnas Unedig" i angladd y Frenhines Elizabeth II.

Wedi 10 diwrnod o alaru, mae'r angladd yn digwydd yn Abaty Westminster ac yng Nghapel San Siôr yn Windsor ddydd Llun.

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw dywedodd Carwyn Jones y bydd pobl yn "cofio rhywun a wnaeth rhoi cymaint dros y blynyddoedd".

"Bydd 'fory [ddydd Llun] yn gyfle i dalu teyrnged i rywun a wnaeth wasanaethu shwd gymaint, ac i gofio ei bywyd hi."