Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II

Mae angladd y Frenhines Elizabeth II wedi ei gynnal ddydd Llun ar ôl i'r arch orffwys yn gyhoeddus yn Neuadd Westminster am bedwar diwrnod.

Fe deithiodd yr arch i Abaty Westminster ar gyfer gwasanaeth crefyddol cyhoeddus yn gyntaf.

Wedi hynny roedd Gwasanaeth y Traddodiant, llai o faint, yn digwydd yng Nghastell Windsor.

Bydd y claddu'n digwydd mewn gwasanaeth preifat yn ddiweddarach.