Treth twristiaeth: 'Effaith fwy ar fusnesau nag ymwelwyr'

Mae cyfnod o ymgynghori cyhoeddus wedi dechrau ar y syniad o godi treth ar bobl sy'n lletya dros nos yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr o rannau eraill o Gymru.

Pe bai'r syniad yn cael ei gymeradwyo, cynghorau sir unigol fyddai'n penderfynu a ydyn nhw am ddefnyddio'r dreth newydd ai peidio.

Ond mae cwmnïau twristiaeth a chwmnïau sy'n elwa o wariant ymwelwyr wedi dweud "nad nawr yw'r amser" i Lywodraeth Cymru ystyried codi treth ar dwristiaid.

Mae Llyr Roberts yn rhedeg hostel Cwtsh yn Abertawe, ac yn teimlo y byddai treth o'r fath yn un annheg i fusnesau fel ei un ef.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod angen edrych ar "ba ardaloedd" sydd wir angen trethu twristiaid, ac y byddai ffi safonol yn effeithio'n fwy ar hostelau nag ar westai drytach.