'Y realiti yw bod cynnydd yn allyriadau'r diwydiant amaeth'
Mae Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru, yn dweud eu bod am weld "ffermwyr sy'n mabwysiadu arferion cyfeillgar i'r hinsawdd a natur" yn cael eu gwobrwyo pan mae'n dod at gymorthdaliadau.
Daw hynny wedi i arolwg ar ran yr elusen byd natur ganfod bod 60% o bobl yng Nghymru'n credu mai dim ond ffermydd sy'n gwarchod natur ddylai dderbyn grantiau yn y dyfodol.