Pryder teulu o Gymru am gorwynt yn Florida

Mae teulu o Gymru sydd ar eu gwyliau yn Florida yn paratoi i aros yn eu hystafell am 24 awr wrth i gorwynt nesáu at y dalaith.

Ers ddydd Gwener, mae Dewi Owen a'i deulu - sydd o'r Bala - ar eu gwyliau yn Disney World yn Orlando.

Ond oherwydd Corwynt Ian - sy'n gorwynt categori pedwar ac sydd eisoes wedi achosi dinistr sylweddol yn Cuba ac wedi lladd oleiaf ddau o bobl - maen nhw wedi gorfod rhoi stop ar eu cynlluniau.

Dywedodd Dewi eu bod nhw a'r bobl leol yn "dechrau poeni".

"'Di hi'm yn edrych yn dda o gwbl 'ma," dywedodd wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru.

"'Dan ni 'di cael text messages gan Disneyland yn d'eud wrthan ni am gau'n hunen yn y rooms o 15:00 p'nawn 'ma [dydd Mercher] tan 15:00 p'nawn 'fory.

"Ma' nhw 'di canslo popeth, oeddan nhw'n cau lawr neithiwr, o'n ni fod mynd am fwyd allan neithiwr ond 'aru nhw gau popeth am 18:00 a dyna fo, pawb allan o'r parciau.

"Mae'r wraig yn poeni, mae'r plant reit 'wel, dyna fo, un o'r pethau 'na ydy o'."

Ychwanegodd Dewi eu bod wedi paratoi ar gyfer y tywydd garw.

"'Den ni'n lwcus 'den ni ar yr ail lawr yn y safle 'den ni ynddo a ma' sand bags rownd y drysau yn y gwaelod.

"'Den ni 'di prynu bwyd neithiwr, 'den ni 'di dod â pizzas oer 'nôl ma, ma gynnon ni fara, mae gynnon ni ddŵr.

"Diolch byth ma'na mobile phones, ma' gynnon ni bac o gardie'," ychwanegodd.

'Dan ni i fod adre w'snos i ddydd Gwener gan obeithio fydd popeth wedi sortio erbyn hynny."