Dirwy barcio: 'Cymry'n euog o roi mewn yn rhy hawdd'
Mae dyn o Bowys wedi beirniadu cwmni "haerllug" ar ôl iddo wrthod talu dirwy barcio uniaith Saesneg a dderbyniodd yn dilyn ymweliad â Llangrannog.
Dywedodd Arwyn Groe, sy'n byw ger Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn, fod One Parking Solution bellach wedi anfon cwmni dyledion ar ei ôl i geisio hawlio'r arian.
"'Dan ni i gyd fel Cymry'n euog o roi i fewn yn rhy hawdd ar brydiau i rymoedd o tu allan i Gymru sy'n barod iawn i wasgu arnom ni a'n hawliau fel pobl," meddai Mr Groe.
Daw hynny wedi i achos tebyg yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone gael ei daflu allan o'r llys yn gynharach eleni, am na wnaeth One Parking Solution anfon cynrychiolydd i'r achos.
Mae One Parking Solution - cwmni preifat o Worthing, Gorllewin Sussex - wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw nad ydyn nhw am wneud sylw.