Lluniau: Gorymdaith annibyniaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Ar Ddydd Sadwrn, 1 Hydref, daeth miloedd o bobl i Gaerdydd ar gyfer rali yn cefnogi annibyniaeth i Gymru. Dyma'r orymdaith gyntaf o'i fath ers tair blynedd yn sgil cyfyngiadau pandemig Covid-19.
Yn ôl One Banner Cymru a YesCymru, y mudiadau a drefnodd y digwyddiad, roedd mwy na 10,000 o bobl yn bresennol.
Fe yrrodd BBC Cymru Fyw Lowri Cooper, ffotograffydd o Bontypridd sydd bellach yn byw yn Llundain, i ddal rhywfaint o ddelweddau'r dydd.





















