Dewi Griffiths: 'Cefnogaeth anhygoel' i Hanner Marathon Caerdydd

Ymhlith y miloedd fu'n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul oedd y Cymro Dewi Griffiths, a orffennodd yn wythfed yn ras elît y dynion.

Fe wnaeth Griffiths, o glwb Harriers Abertawe, gwblhau'r cwrs mewn amser o 1:04:15, gan roi teyrnged ar ddiwedd y ras i'r "gefnogaeth anhygoel" ar y strydoedd.