Cwpan Rygbi'r Byd: Gêm Cymru a'r Alban 'fel ffeinal'
Bydd Cwpan Rygbi'r Byd i'r merched yn dechrau yn Seland Newydd ddydd Sadwrn, ac mae carfan Cymru eisoes allan yno yn paratoi cyn eu gêm gyntaf nhw ddydd Sul.
Bydd Cymru yn dechrau'r gystadleuaeth yn Seland Newydd yn erbyn Yr Alban ar 9 Hydref.
Yna fe fyddan nhw'n herio Seland Newydd ar eu tomen eu hunain, cyn eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Awstralia ar 22 Hydref.
12 tîm sydd yn y gystadleuaeth, gyda'r ddau uchaf yn y tri grŵp a dau o'r timau yn y trydydd safle yn gwneud yr wyth olaf.
Un sy'n hen law ar Gwpan y Byd ydy'r maswr Elinor Snowsill, sy'n ymddangos yn y gystadleuaeth am y pedwerydd tro eleni.
Dywedodd Snowsill y bydd y gêm yn erbyn Yr Alban - gêm agoriadol y gystadleuaeth a'r gêm ble mae gan Gymru'r siawns gorau o ennill - "fel ffeinal i ni".