'Fi'n poeni y galle fe frifo rhywun, fel 'nath e frifo fi'

Fe aeth Faith Jones, 19 o Abertawe, at yr heddlu yn gynharach eleni yn dweud ei bod wedi dioddef ymosodiad rhyw.

Ond, oherwydd y "straen", fe wnaeth hi "benderfyniad torcalonnus" i ddod â'r broses gyfreithiol i ben.

Yn ôl elusen Cymorth i Ferched dyw'r penderfyniad wnaeth Faith ddim yn anghyffredin, oherwydd diffyg cefnogaeth ac oedi yn y system gyfiawnder.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi "gweithio'n galed i leihau amseroedd aros oherwydd y pandemig".