Angen codi ymwybyddiaeth o ganser eilaidd y fron
A hithau'n fis ymwybyddiaeth canser, mae galw o'r newydd wedi bod am well triniaethau i gleifion sydd yn byw â canser eilaidd y fron.
Mae'r math yma o ganser yn lledu i rannau eraill o'r corff o'r man y dechreuodd, ac mae ymgyrch 'The Darker Side of Pink' gan elusen Met Up UK yn galw hefyd am well ymwybyddiaeth o'r clefyd.
Ymhlith y menywod sydd â chanser eilaidd y fron mae Andrea Price Jones, o Llangatwg ger Castell-nedd.
Cafodd ei diagnosis cyntaf o ganser wyth mlynedd yn ôl.
Cafodd wybod i ddechrau bod ganddi ganser y fron ac o fewn wythnos cafodd gadarnhad ei fod wedi lledu i'w hesgyrn.
Am saith mlynedd bu'n derbyn triniaeth i'w gadw dan reolaeth am nad oedd modd cael ei wared ond y llynedd cafodd wybod bod y canser wedi lledu ymhellach - i'r afu, ac mae bellach yn derbyn cemotherapi a rhagor o radiotherapi.
Er bod 31 o fenywod yn marw bob dydd o ganser eilaidd y fron, yn ôl Met Up UK, does dim ffigyrau am faint sy'n derbyn triniaeth ar ei gyfer.
I Andrea mae cael cymorth arbenigol, yn ei hachos hi cydlynydd gwasanaethau sy'n gallu gweithredu ar frys, yn holl bwysig wedi iddi gael diagnosis oedd yn anodd iddi hi a'r teulu.