Cip ar hanes sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn 1872
Mae'r brifysgol sy'n disgrifio ei hun fel yr un gyntaf yng Nghymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.
Fe sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ar y 16 Hydref, 1872, gyda'r syniad yn dod gan nifer o Gymry cefnog Llundain ar ôl cyhoeddi adroddiad sarhaus Brad y Llyfrau Gleision.
Eu bwriad oedd cynnig addysg prifysgol i bawb, gan gynnwys pobl Cymru, oedd cyn hynny wedi teithio dros y ffin i gael eu haddysg yn Lloegr.
Yr hanesydd Elgan Philip Davies, a Cara Cullen o Brifysgol Aberystwyth, sy'n sôn ychydig mwy am hanes cynnar y sefydliad.