Osteoporosis: 'Dim llawer o gefnogaeth ar gael'

Mae'r Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn dweud ei bod hi'n "bwynt o argyfwng" yng Nghymru o ran gofal i gleifion ag esgyrn brau.

A hithau'n ddiwrnod osteoporosis y byd, maen nhw'n galw am fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel "loteri cod post" wrth drefnu cymorth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion tasglu arbennig ddydd Iau i edrych ar y gwasanaethau ar gyfer cleifion sy'n byw â chyflwr osteoporosis, gyda'r bwriad o sicrhau mwy o gysondeb o ran triniaeth.

Mae tua 185,000 o bobl yn byw ag osteoporosis yng Nghymru. Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar esgyrn y corff, ac yn eu gwanhau.

Un o'r rheiny yw Catherine Richards, 52 o Lanelli, sy'n dweud bod diffyg cefnogaeth yn bryder iddi.