'Ti ar ben dy hun, braidd' gyda chyflyrau prin

Mae 'na obaith newydd i'r rheiny sy'n dioddef o gyflyrau prin, yn dilyn sefydlu'r clinig cyntaf ym Mhrydain sy'n canolbwyntio ar syndromau sydd mor brin nad oes ganddyn nhw enw hyd yn oed.

Mae clinig SWAN (Syndrome Without a Name) wedi ei leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond gall ymgynghorwyr gyfeirio cleifion o unrhyw le yng Nghymru i'r clinig.

Un sydd wedi croesau'r newyddion ydy Mel Williams, sy'n byw ger Y Bala, fu'n disgwyl dros hanner canrif am ddiagnosis o gyflwr hynod anghyffredin o'r enw hypophosphatasia.

Dros bum degawd cafodd ei hanfon yn ôl ac ymlaen i weld gwahanol arbenigwyr er mwyn ceisio darganfod beth oedd y cyflwr prin oedd arni.