'Ble mae'r help i dalu am y biliau 'ma?'
Mae yna alwadau i ofalwyr di-dâl gael rhagor o gymorth i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.
Mae Ceri Higgins, sy'n dod o Donteg yn Rhondda Cynon Taf, yn un o dros hanner miliwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Ers tair blynedd, mae wedi gofalu am ei mam.
Yn ôl Ceri mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw fel teulu, ac mae hi'n gofyn: "Ble mae'r help yn dod i dalu am y biliau yna?"
Maen nhw'n diffodd y teledu a'r golau er mwyn arbed arian.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n darparu cefnogaeth "anferthol" i ofalwyr drwy ddarparu grantiau gwahanol.