Ystyried cais am 400 o dai yn Aberdyfi yn y Goruchaf Lys
Bydd achos yn ymwneud â chais cynllunio ar gyfer dros 400 o dai yn Aberdyfi dan ystyriaeth yn y Goruchaf Lys ddydd Mercher.
Cafodd y cais gwreiddiol i adeiladu'r tai ei gyflwyno hanner canrif yn ôl gan ddatblygwyr o'r enw Hillside Parks Ltd, sy'n berchen ar y tir.
Yr hen Gyngor Meirionnydd oedd wedi rhoi'r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn 1967, ond bellach Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw'r awdurdod cynllunio.
Mae awdurdod y parc yn dweud nad oes modd i Hillside Parks gwblhau'r cynllun gwreiddiol.
Ond mae'r datblygwyr yn ceisio profi yn gyfreithiol ei bod hi'n bosib defnyddio'r caniatâd gwreiddiol hwnnw i fwrw 'mlaen â'u cynlluniau.
Oherwydd pryderon yn lleol, mae'r achos wedi bod i'r llys sawl gwaith.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Dewi Owen sy'n gynghorydd dros Aberdyfi ar Gyngor Gwynedd, fod sefyllfa dai yn Aberdyfi eisoes yn broblem.
"Llond llaw o dai sydd yma'n barhaol - mae'r gweddill yn dai gwyliau," meddai, gan ychwanegu nad yw'r isadeiledd yn "ddigonol" i ddelio â'r holl dai ychwanegol.
Ychwanegodd yr ymgynghorydd cynllunio, Mark Roberts ei bod yn annhebygol y byddai modd gwireddu'r caniatâd cynllunio a roddwyd 'nôl yn 1967.