Cyngor Caerdydd yn wynebu dewisiadau 'amhosib'

Mae yna rybudd y bydd angen i gynghorau sir Cymru arbed mwy na £200m yn y flwyddyn ariannol nesaf wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu.

Gyda chwyddiant yn cynyddu, mae ymchwil newydd yr undeb UNSAIN yn darogan y bydd angen torri gwasanaethau a swyddi ar draws y cynghorau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r heriau.

Yn ôl yr ymchwil Cyngor Caerdydd sy'n wynebu'r twll ariannol mwyaf, ac ar raglen Dros Frecwast fe gadarnhaodd yr arweinydd, y Cynghorydd Huw Thomas bod y bwlch hwnnw'n £53m, sef y mwyaf yn ei hanes.

Rhybuddiodd bod yna benderfyniadau "amhosib" o'u blaenau wrth ystyried pa doriadau i'w gweithredu.