'Rydym yn flin gorfod gofyn i bobl beidio teithio'

Mae yna rybudd i bobl i beidio teithio ar y trenau i ac o Gaerdydd ddydd Sadwrn er na fydd yna streic gweithwyr rheilffordd wedi'r cyfan.

Cadarnhaodd yr undeb RMT brynhawn Gwener bod cyfres o streiciau wedi eu gohirio tra bod trafodaethau "dwys" yn cael eu cynnal i geisio datrys anghydfod dros gyflogau, toriadau swyddi a newidiadau i delerau ac amodau.

Ond yn ôl Trafnidiaeth Cymru fe ddaeth y cyhoeddiad yn rhy hwyr i adfer gwasanaethau trên oedd wedi eu canslo erbyn dydd Sadwrn, er bod miloedd o gefnogwyr rygbi'n anelu am y brifddinas ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng nghyfres yr hydref yn erbyn Seland Newydd.

Gyda'r trên olaf yn gadael canol y ddinas am 17:00 ddydd Sadwrn, fe rybuddiodd Sian Bower ar ran Network Rail: "Bydd y trenau ddim gyda ni i'w cael nhw'n ôl adref yn ddiogel."

Gyda'r disgwyl y bydd y ffyrdd felly yn brysur, mae'r awdurdodau'n apelio ar bobl i ddefnyddio ffyrdd eraill o deithio i'r gêm, gwybod o flaen llaw pa strydoedd fydd ar gau ac i ddefnyddio gwasanaethau parcio a theithio.

Mae Sian Bower hefyd yn cynghori pobl i neilltuo digon o amser ar gyfer eu taith, ac i drigolion lleol ystyried cerdded i'r stadiwm.

Mae hefyd yn rhybuddio bod disgwyl i'r sefyllfa barhau i amharu ar deithiau trên hyd at ddydd Mercher 9 Tachwedd.