Ambiwlans awyr: 'Targed awr aur yn amhosib o ganoli'

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal - wedi gwyliau'r Nadolig, mae'n debyg - ynghylch cael un safle yn unig ar gyfer hofrenyddion a cherbydau gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru yn y gogledd.

Mae miloedd wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o gau'r safleoedd presennol yn ardaloedd Caernarfon a'r Trallwng.

Maen nhw'n ofni y byddai'n cymryd hirach i griwiau gyrraedd achosion brys mewn rhai ardaloedd.

Yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio yw un safle yn Sir Conwy neu Sir Ddinbych ger yr A55.

Mae adroddiad gan bwyllgor Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn dweud y byddai'r newid yn cynyddu'r ddarpariaeth gyda'r un nifer o staff meddygol ac adnoddau.

Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, fe bwysleisiodd un o wirfoddolwyr y gwasanaeth, Alun Shorney pa mor bwysig yw cyrraedd cleifion mor fuan â phosib.

Ac fe rybuddiodd y byddai'n amhosib i hofrennydd gyrraedd rhai ardaloedd o fewn 20 munud o orfod cychwyn y daith o safle yng nghanol y rhanbarth.