Toriadau'n 'peri gofid am sefyllfa staffio' ysgolion
Mae penaethiaid ysgolion yn rhybuddio y gallai pwysau ar eu cyllidebau olygu toriadau i staff ledled Cymru.
Daw'r canfyddiadau yn dilyn arolwg o 670 o'r tua 1,500 o ysgolion yng Nghymru gan undeb y prifathrawon, NAHT Cymru.
Yn ôl cyfarwyddwr yr undeb, Laura Doel, does "dim ar ôl i'w dorri" yn dilyn degawd o lymder a thanariannu.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, Owain Gethin Davies, ei bod yn "anodd darogan" pa doriadau fydd eu hangen cyn cael gwybod eu setliad ariannol yn derfynol.
Ychwanegodd fod y sefyllfa ariannol yn "peri gofid yn sicr o ran sefyllfaoedd staffio", ac y byddai llai o athrawon yn arwain at ddosbarthiadau mwy o ran nifer y disgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod fod chwyddiant a chostau ynni yn achosi pwysau ariannol, a bod cynghorau ac ysgolion yn edrych i ddefnyddio arian wrth gefn.