Oriel luniau: Cymru yn yr hydref
- Cyhoeddwyd
Yr hydref yw'r adeg gorau o'r flwyddyn i dynnu lluniau o rai o ardaloedd pertaf Cymru, yn ôl y ffotograffydd Gareth Morris.
Mewn oriel arbennig ar gyfer Cymru Fyw, mae Gareth, sy'n dod o Drefdraeth, Sir Benfro, yn rhannu rhai o'i hoff luniau o'r hydref yng Nghymru.
Mae gan Gareth awch am dynnu luniau o dirluniau, fel mae'n esbonio: "Dwi'n cael fy nhynnu at fynyddoedd a choedwigoedd diarffordd a dwi'n chwilio am lefydd sy' heb eu darganfod pan dwi'n cael cyfle. Dwi o hyd yn chwilio am y trysor cudd nesaf i dynnu llun ohono!"

Talybont, Bannau Brycheiniog, wrth i'r haul fachlud

Rhaeadr Sychryd yn ardal Castell-nedd

Llangrannog

Yr olygfa o Garn Ingli tuag at Ben Dinas

Yr olygfa o Garreg Cennen

Goleudy Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin

Carn yn y Mynyddoedd Du

Y coed yn y cymoedd yn Rhandirmwyn

Sgwd Isaf Clun-gwyn, Bannau Brycheiniog

Mynydd Tryfan ar ei orau yn lliwiau'r hydref