'Chwaraewyr America yn rhai o safon'

Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd - mae tîm pêl-droed Cymru ar fin chwarae eu gêm gyntaf yn nhwrnamaint Cwpan y Byd ers 1958.

Unol Daleithiau America yw eu gwrthwynebwyr cyntaf yn Qatar, ac mae hyfforddwr pêl-droed o Fôn a aeth dros Fôr Iwerydd i weithio yn rhagweld gêm agos.

"Does neb isio colli'r gêm gyntaf!", meddai Ian Hughes, cyn-reolwr tîm pêl-droed Aberystwyth.

Mae'n rhybuddio bod gan y gwrthwynebwyr nos Lun ambell i chwaraewr o safon o fewn y garfan.