Ymateb aelodau'r Wal Goch wedi gêm o ddau hanner

Dwi'n teimlo bod nerfau wedi chwarae rhan fawr. Dydyn nhw heb ymdopi efo'r cyffro sydd wedi arwain at heddiw.

Dwi'n teimlo fod yr achlysur wedi cael y gorau ohonyn nhw. Un camgymeriad ar ôl y llall yn anffodus.

Mae Cymru wedi sicrhau eu pwynt cyntaf yng Ngrŵp B cystadleuaeth Cwpan y Byd 2022 yn Qatar ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn erbyn UDA.

Roedd yr ornest yn enghraifft glasurol o gêm o ddau hanner - fe chwaraeodd tîm Robert Page yn siomedig o wael yn yr hanner cyntaf ac roedd eu gwrthwynebwyr yn llwyr haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl.

Ond roedd eu perfformiad yn yr ail hanner yn llawer gwell ac fe sgoriodd Gareth Bale o'r smotyn, gyda 10 munud i fynd o'r 90, i unioni'r sgôr.

Ac wrth i'r ddau dîm wneud eu gorau i gipio buddugoliaeth hwyr, Cymru oedd yn edrych fel y tîm oedd yn fwya' tebygol o sgorio cyn y chwiban olaf.

Roedd yna ddigon i aelodau'r Wal Goch gnoi cil arno felly wrth adael Stadiwm Ahmad bin Ali, Doha.