Cefnogwyr 'anhapus iawn' ar ôl methu cael hedfan i Doha

Mae cefnogwyr Cymru yn dweud fod "degau" o bobl heb gael hedfan o Dubai i Doha, sy'n golygu y byddan nhw'n colli gêm Cwpan y Byd y tîm cenedlaethol yn erbyn Iran, oherwydd problem gyda'r cerdyn sy'n caniatáu mynediad i Qatar.

Fe gododd y trafferthion mewn maes awyr wrth i swyddogion ddweud wrth gefnogwyr nad oedd eu cerdyn Hayya yn ddilys.

Mae'r cerdyn adnabod hefyd yn gweithredu fel fisa ac yn caniatáu mynediad i fysus, trenau a'r metro.

"Mae pobol yn anhapus iawn - mae'n rhaid bod hyn yn broblem ar lefel enfawr," meddai Hywel Price o Gaerdydd, un o'r cefnogwyr a gafodd ei wrthod ym maes awyr Dubai ben bore Gwener.