'O'dd hwnna'n warthus - dw i isio 'mhres yn ôl'
Mae gobeithion Cymru o symud ymlaen i rownd nesaf Cwpan y Byd yn Qatar wedi pylu'n aruthrol wedi iddyn nhw golli o 2-0 i Iran yn eu hail gêm grŵp.
Mae'n golygu bod Cymru ar waelod Grŵp B, gyda phwynt yn unig wedi'r gêm gyfartal nos Lun yn erbyn UDA.
Doedd yna ddim ailadrodd i fod ddydd Gwener yn erbyn Iran o berfformiad campus ail hanner y gêm gyntaf - ac roedd Iran yn haeddu ennill, er iddyn nhw orfod aros tan y munudau ychwanegol i rwydo.
Bydd hi'n dalcen caled felly nos Fawrth pan fydd Cymru'n wynebu tîm cryfaf y grŵp - yr hen elynion, Lloegr - i geisio sicrhau o leiaf un fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth.
Wedi'r holl edrych ymlaen felly, a'r ymdrech a'r gost o fynd i'r Dwyrain Canol, roedd ysbryd aelodau'r Wal Goch yn isel wrth adael Stadiwm Ahmad bin Ali yn Doha.