'O'dd hwnna'n boenus': Ymateb y Cymry yn Doha
Yr ymateb y tu allan i Stadiwm Ahmad bin Ali yn Doha wrth i Gymru fynd allan o Gwpan y Byd 2022.
Daeth diweddglo ar ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn dilyn colled drom yn erbyn Lloegr.
Roedd yn rhaid i Gymru ennill a gobeithio bod canlyniad y gêm arall rhwng Iran ag UDA yn mynd o'u plaid er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr 16 olaf.
Os nad oedd y gêm yna'n gorffen yn gyfartal, byddai angen i Gymru ennill o bedair gôl i sicrhau gwahaniaeth goliau gwell na Lloegr.
Ond bu i ddwy gôl ar gychwyn yr ail hanner brofi'n gostus wrth i dim Robert Page fethu â chreu cyfleon o bwys mewn 90 munud siomedig.
Iwan Griffiths fu'n holi yn Doha.