Storm Arwen: Bad achub yn 'cyrraedd just mewn pryd'

Mae tîm achub o Geinewydd yng Ngheredigion wedi'u cydnabod am eu hymdrechion arwrol i achub criw rhwyfo o Iwerddon a aeth i drafferthion yn ystod Storm Arwen.

Am 08:00 fore Gwener, 26 Tachwedd 2021, fe aeth y criw i drafferthion difrifol 18 milltir i'r gogledd-orllewin o Geinewydd tra'n hwylio o Iwerddon i Aberystwyth.

Yn ôl un aelod o'r tîm mae ambell weithred o achub pobl ar y môr yn aros yn y cof - ac yn sicr mae hon yn un ohonyn nhw.

Ers hynny mae'r criw rhwyfo wedi dychwelyd i Geinewydd i ddiolch i'r tîm achub ac mae'n braf bellach "ein bod hefyd wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol gan yr RNLI," medd y tîm.