Siwan Lillicrap yn 'hapus' gyda'i phenderfyniad i ymddeol

Mae capten tîm rygbi merched Cymru Siwan Lillicrap wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Hi yw capten y tîm ers Tachwedd 2019 ac mae wedi cael 51 o gapiau rhyngwladol.

Roedd hefyd ymhlith y 12 chwaraewr benywaidd cyntaf i gael cytundebau proffesiynol.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae hi wedi chwarae rhan allweddol o ran proffesiynoli camp y merched.

Daw ei phenderfyniad wedi i Gymru ddod yn drydydd ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Seland Newydd.