Plant o Wcráin yn dysgu Cymraeg ym Môn mewn 12 wythnos
Dyma rai o blant Wcráin sydd wedi symud i Ynys Môn eleni - a dysgu Cymraeg mewn dim ond 12 wythnos.
Fe dreuliodd y plant gyfnod mewn uned trochi - un o ddwy ar yr ynys sy'n dysgu'r iaith i blant mewn cyfnod byr fel bod modd iddyn nhw gael addysg ddwyieithog yn ôl yn eu hysgol leol.
Mae Sofiia, 8, yn dod o Kryvyi Rih - tref enedigol yr Arlywydd Volodymyr Zelensky - ac wedi bod yn mwynhau'r gwersi.
"Rydw i'n hoffi ysgrifennu, darllen a dipyn bach o ganu," meddai. "Rydw i'n siarad Cymraeg efo ffrindiau yn yr ysgol."
Dywedodd Eira Owen, un o athrawon yr uned, fod y plant wedi bod yn "wych" ac wedi "taflu eu hunain i mewn i'r holl brofiadau".
Ond mae'r athrawon yno hefyd i siarad gyda nhw a'u cysuro ar adegau mwy anodd, meddai, gan gynnwys pan maen nhw eisiau siarad am beth sy'n digwydd adref yn Wcráin.
"Rydan ni'n cydymdeimlo, ond wrth gwrs does 'na'm posib i ni wybod yn iawn pa mor anodd ydy o iddyn nhw," meddai.