'Siomedig iawn ei bod hi wedi gorfod dod i hyn'

Mae cannoedd o nyrsys ar draws Cymru yn streicio am yr eilwaith o fewn wythnos ddydd Mawrth.

Mae Olwen Davies a Sharon Hughes ymysg y nyrsys sy'n picedu tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedodd Ms Hughes ei bod yn teimlo fod nyrsys wedi cael "dim cefnogaeth" dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod yn gyfnod "anodd ofnadwy".

Ychwanegodd fod angen gwneud mwy i ddenu a chadw nyrsys yn y swydd, gan ei bod wedi gweld "lot fawr o nyrsys da yn gadael".

Dywedodd Ms Davies ei bod yn "teimlo bod y gwasanaeth iechyd yn gwegian o dan lot o bwysau", a bod hynny'n effeithio ar y gofal maen nhw'n gallu ei ddarparu i gleifion.