Trafferthion cyflenwi dŵr: 'Mae lle i wella ar yr ymateb'

Wedi dyddiau heb ddŵr, mae yna ryddhad mewn cannoedd o aelwydydd yn y canolbarth a'r gorllewin wrth i gyflenwadau gael eu hadfer dros nos.

Ond mae'r rhwystredigaeth yn parhau am gyfnod i eraill - tua 900 o gwsmeriaid, yn ôl Dŵr Cymru ben bore Mercher.

Dywed y cwmni bod timau'n gweithio'n galed i ddatrys y problemau a ddechreuodd dros y penwythnos wedi i'r tywydd rhewllyd ddifrodi pibellau.

Mae poteli a thanceri dŵr wedi eu darparu yn Llandysul, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi, ond mae rhai'n dweud nad oes digon o wybodaeth wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, yr aelod o gabinet Cyngor Ceredigion sy'n gyfrifol am wasanaethau amgylcheddol, bod yna le i edrych ar sut mae gwybodaeth yn cael ei roi i'r cyhoedd dan y fath amgylchiadau.