Fideo: Cofio 50 mlynedd o Cwm Rhyd y Rhosyn
Hanner can mlynedd yn ôl i eleni, cafodd record sydd wedi ei disgrifio gan y cyflwynydd Huw Stephens fel "un o recordiau pwysicaf yr iaith Gymraeg" ei rhyddhau.
Dafydd Iwan ac Edward oedd yn gyfrifol amdani, sef Fuoch Chi 'Rioed yn Morio, y casgliad cyntaf yng nghyfres Cwm Rhyd y Rhosyn.
Er poblogrwydd cynyddol Yma o Hyd, mae Dafydd Iwan yn credu mai dyma yw ei greadigaeth bwysicaf, fel y mae'n ei egluro ar raglen arbennig ar BBC Radio Cymru i nodi'r pen-blwydd.
DARLLENWCH: Dafydd Iwan, Cwm Rhyd y Rhosyn a chân enwog Men at Work