'Angen i bobl golli pwysau' i helpu'r gwasanaeth iechyd

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud bod angen i bobl "gymryd cyfrifoldeb" ac "helpu ni hefyd" wrth geisio lleddfu pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Wrth ymddiheuro am y trafferthion diweddar, dywedodd fodd bynnag fod angen "trafodaeth" hefyd ar sut fydd y gwasanaeth iechyd yn gweithio i bobl yn y dyfodol.

Mae hynny, meddai, yn cynnwys gofyn i bobl geisio cymryd mwy o ofal o'u hiechyd eu hunain, gan gynnwys colli pwysau a "bwyta'n fwy iach".