'Ffotograffiaeth yn helpu fi i ddeall fy nheimladau'
Roedd Jack Moyse yn yr ysgol uwchradd pan ddechreuodd sylwi ar newidiadau i'w gorff.
Roedd ei wersi chwaraeon yn anoddach, a'i ffrindiau yn datblygu yn gyflymach yn gorfforol.
"O'n i ddim eisiau cydnabod fod rhywbeth o le," meddai.
Yn 17 oed, fe gafodd Jack wybod fod ganddo nychdod cyhyrol fasioscapwlohwmerol (FSHD muscular dystrophy), cyflwr sy'n achosi i'w gyhyrau wanhau yn gyflymach nag eraill. Weithiau mae cwblhau tasgau dyddiol yn anodd iawn iddo.
Er gwaetha'r heriau corfforol a meddyliol, mae Jack yn defnyddio ei gyflwr a'i ddiagnosis fel ysbrydoliaeth i'w waith fel artist aml-blatfform.