Ap Cwis Bob Dydd yn 'dangos fod S4C yn trio pethau gwahanol'
Dywed un o arweinwyr digidol S4C fod cwis newydd a gynhyrchwyd gan y sianel yn gyfle i ehangu eu cyrhaeddiad tu hwnt i gynulleidfa teledu gonfensiynol.
Mae Cwis Bob Dydd yn ap lle mae defnyddwyr yn cael eu herio gyda 10 cwestiwn newydd pob dydd ac yn cystadlu er mwyn cyrraedd y brig.
Erbyn hyn mae 5,000 o bobl wedi cofrestru gyda thua 3,000 yn chwarae'r cwis yn ddyddiol, yn ôl Rhodri ap Dyfrig, Arweinydd Cynnwys Trawsnewid Digidol S4C.
Mae'r ap yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei greu gan gwmni o Wlad y Basg.
Penderfynodd S4C weithio gyda'r cwmni ar ôl gweld llwyddiant y cwis ar y cyfandir.
Cyflwynwyd Cwis Bob Dydd ym mis Hydref y llynedd ac fe fydd yn parhau am bedair wythnos yn hirach na'r disgwyl oherwydd llwyddiant yr ap.