'Ffantastig' cael adnoddau dysgu Cymraeg i fwy o ieithoedd

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi lansio pecyn adnoddau er mwyn ceisio cyflwyno Cymru a'r Gymraeg i bobl sydd ddim yn siarad llawer o Saesneg.

Mae'r pecyn, o'r enw Croeso i Bawb, ar gael yn Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto.

Mae'n adnodd am ddim, gyda'r modiwl hunan-astudio digidol yn cyflwyno dysgwyr i bobl a llefydd Cymru, hanes yr iaith, y celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.

Daeth Gosia Rutecka i Gymru o Wlad Pwyl rhyw 16 o flynyddoedd yn ôl oherwydd gwaith ei gŵr a'r angen am antur, cyn penderfynu aros yma.

Bu'n byw yng Nghaerdydd am ddwy flynedd cyn symud i'r Rhondda, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg rhyw saith mlynedd yn ôl.

Dywedodd ar Dros Frecwast nad oedd hi'n ymwybodol o'r Gymraeg am sawl blwyddyn wedi iddi gyrraedd Cymru, nes iddi glywed rhywun yn dweud "bore da" wrth fynd â'i merch i gylch meithrin.

Roedd Gosia yn gallu siarad Saesneg yn rhugl cyn cyrraedd Cymru, ond mae'n dweud fod yr adnoddau newydd yn "ffantastig" ac yn rhoi "croeso cynnes" i gyflwyno pobl i'r Gymraeg.